Mae Ysgol Aberconwy wedi derbyn dau furlun newydd deniadol yn ddiweddar i addurno ein coridorau ac ysbrydoli ein myfyrwyr.
Bellach mae gennym furlun addysgiadol ac addurniadol, yn darlunio llinell amser o ddigwyddiadau nodedig yn Hanes Cymru, sy’n eistedd yn falch yng nghoridor yr Iaith Gymraeg i fyfyrwyr edrych arno a chyfeirio ato yn ystod gwersi.
Mae gennym hefyd furlun hardd yn y coridor y tu allan i’r Hwb (Chweched Dosbarth) a gafodd ei ddylanwadu gan y dirwedd leol ac sy’n cynrychioli’r hyn y mae ein chweched dosbarth yn ei gynnig i fyfyrwyr, amgylchedd cefnogol sy’n eu hannog i dyfu a dod yn annibynnol wrth iddynt ddewis llwybrau amrywiol a dod yn rhan o fôr mawr bywyd.
Diolch enfawr i’r artistiaid Lois Wynne Jones (Murlun Cymreig) a Ffion Roberts-Drakley (murlun Yr Hwb) am greu’r gweithiau celf hyn i ni. Rydyn ni'n eu caru!