Yn ddiweddar, treuliodd tri deg o fyfyrwyr chweched dosbarth Ysgol Aberconwy bythefnos gwych yn Marbella yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o brofiad gwaith; buont yn gweithio yn eu sectorau dewisol eu hunain, yn amrywio o'r Gyfraith i Fecaneg, Pensaernïaeth i Addysg. Cawsant fwynhau tywydd bendigedig a gweithgareddau diwylliannol gan gynnwys gwersi Sbaeneg, Calan Gaeaf, a theithiau i Gibraltar a Ronda. “Roedd o'n brofiad anhygoel ac rydym yn ei argymell i bawb – fe ddysgon ni gymaint ac rydym wir eisiau mynd yn ôl”