Ar Ddydd Mercher 13eg Medi, bu rhai o fyfyrwyr blwyddyn 7 yn ymweld â’r Ffair Fêl yng Nghonwy lle buont yn astudio hanes a phwysigrwydd ffair y Siarter Frenhinol 700 oed fel rhan o’r cwricwlwm newydd. Yn ystod yr ymweliad fe wnaethant hefyd gwblhau arolwg, archwilio'r farchnad ac wrth gwrs, prynu mêl lleol hyfryd. Wedi iddynt ddychwelyd i'r ysgol, yn ystod eu gwers Gymraeg, defnyddiwyd y 'ffurf orchmynnol' i ysgrifennu cyfarwyddiadau yn Gymraeg ar sut i wneud brechdan fêl flasus, a bu'n rhaid iddynt wedyn eu dilyn. Cawsant lawer o hwyl, yn enwedig pan oedd rhai wedi anghofio cynnwys cyfarwyddiadau fel 'ewch i nol plât' ayyb!