Llongyfarchiadau i'n tîm criced merched dan 15 a ddaeth yn Bencampwyr Gogledd Cymru yr wythnos diwethaf!
Yn dilyn y llwyddiant hwn, teithiodd y tîm i Glwb Criced Sale i gynrychioli Gogledd Cymru mewn cystadleuaeth Chance to Shine. Roedd y tîm yn wynebu cystadleuwyr cryf iawn yn y digwyddiad, ond llwyddodd i ddod yn 4ydd, gan guro Ysgol Darlands ac Ysgol Keswick yn ddidrafferth.
Roedd yn ddiwrnod bendigedig. Cefnogwyd y digwyddiad gan sawl chwaraewr o dîm Criced Thunder Manceinion, a ganmolodd ein merched ar eu perfformiad. Doedden nhw ddim yn gallu credu mai dim ond ers 5 mis y mae nhw wedi bod yn chwarae!
Dywedodd yr athrawes a hyfforddwraig Addysg Gorfforol, Myfanwy Wilson, “Roedd y merched yn eithriadol drwy gydol y gystadleuaeth. Buont yn chwarae gyda dewrder a gwytnwch drwy'r dydd. Roeddwn bod yn hyfforddwr arnynt yn gwneud imi deimlo'n falch iawn, ac fe wnaethant gynrychioli’r ysgol gydag uniondeb.”