Llongyfarchiadau i Zach ym mlwyddyn 7 a amddiffynnod ei safle fel Pencampwr Codi Pwysau Cymru dan 12 oed yn ddiweddar, gan ei wneud yn bencampwr Cymru ddwywaith. Bellach ef yw pencampwr presennol Cymru a Phrydain yn ei gategori a’i ddosbarth!
Dechreuodd Zach ymddiddori mewn codi pwysau pan ddechreuodd ei frawd hŷn hyfforddi yn y gamp. Pan oedd yn ddim mwy na saith oed, dechreuodd Zach hyfforddi gyda’i hyfforddwr Holly Knowles, sydd wedi cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad. Mae bellach yn hyfforddi deirgwaith yr wythnos ac wedi cystadlu ledled Prydain.
Enillodd Zach ei gystadleuaeth gyntaf yn ystod cyfnod cloi Covid-19, pan enillodd gystadleuaeth codi pwysau Prydain ar-lein, gan godi pwysau gartref yn ei garej. Enillodd ei fedal gystadleuaeth gyntaf ym mhencampwriaethau Cymru, gan ddod yn ail pan oedd yn ddim mwy na 10 oed. Dilynwyd hyn gan fedal arian arall mewn cystadleuaeth arall yng Nghymru yn ddiweddarach y flwyddyn honno, gan arwain at ei dwrnamaint Prydeinig cyntaf, a medal arian arall.
Y llynedd enillodd bencampwriaethau Cymru ond ei gamp fwyaf hyd yma oedd pan enillodd Aur ym Mhencampwriaethau Prydain yn y categori dan 12 oed am ei ddosbarth pwysau ym mis Tachwedd 2022. Am gamp wych!
Mae ei lwyddiant diweddaraf wedi ei gymhwyso i ddychwelyd i Bencampwriaethau Prydain i amddiffyn ei deitl yn ddiweddarach eleni. Dymunwn y gorau i Zach yn y gystadleuaeth hon (a holl gystadlaethau’r dyfodol) a gobeithiwn y bydd yn sicrhau buddugoliaeth, gan ddychwelyd fel Pencampwr Prydain am yr ail dro.