Mae myfyrwyr Ysgol Aberconwy wedi mwynhau dathlu'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd am y tro cyntaf ers 2019! Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae myfyrwyr wedi cael y cyfle i ddathlu Blwyddyn Newydd Leuadol trwy sesiynau ar-lein a ddarparwyd gan diwtoriaid Sefydliad Confucius Caerdydd. O Ionawr 23ain ymlaen, fodd bynnag, fe wnaethom fwynhau wythnos o sesiynau trawsgwricwlaidd yn y dosbarth. Mynychodd myfyrwyr CA3 eu gwersi arferol ond gyda thema Tsieineaidd. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys caligraffeg Tsieineaidd, dysgu Mandarin, torri papur, cwningod origami, cyfrifo arian Tsieineaidd, tai chi, coginio reis wedi’i ffrio ag wy, ysgrifennu creadigol, gwneud llusernau, dysgu am y fyddin Terracotta, daearyddiaeth Tsieina a goroesiad pandas.
Roeddem yn falch iawn o allu dathlu gyda'n hathro Tsieineaidd presennol, Mr Zigeng He. Buom hefyd yn ffodus iawn i gael Miss Qi Zhang i ymweld â ni o Ysgol Eirias. Rhannodd y ddau athro eu harbenigedd a'u gwybodaeth gyda myfyrwyr, gan gyflwyno sesiynau tai chi, origami a thorri papur.
Cyflwynodd Zayna Benbattouche a Max O'Donnell ym mlwyddyn 7 ac Ethan Walker, blwyddyn 8, wythnos o wasanaethau yn tynnu sylw at y ffeithiau allweddol a phwysigrwydd dathlu'r ŵyl Tsieineaidd hon. Mae'r tri myfyriwr yn haeddu clod am ymrwymo i'r gwasanaethau hyn am wythnos gyfan, a llwyddo i sefyll o flaen grŵp blwyddyn gwahanol bob dydd.
Cynhaliwyd cystadleuaeth Celf Cwningod Sidydd ar gyfer pob Cyfnod Allweddol yn ogystal â phos Blwyddyn Newydd Tsieineaidd. Llongyfarchiadau i holl enillwyr ein cystadleuaeth!