Ymunodd staff, myfyrwyr a’u teuluoedd â’r gymuned ehangach i ddathlu’r Nadolig yn Eglwys y Santes Fair yng Nghonwy ddydd Mawrth 20 Rhagfyr. Roedd y noson yn llawn o gerddoriaeth Nadoligaidd, gyda pherfformiadau rhagorol gan ein corau ysgol, cerddorion a hyd yn oed criw dawnsio. Rhannwyd darlleniadau a gweddïau i fyfyrio ar wir ystyr y Nadolig a mwynhaodd pawb ganu carolau Nadolig traddodiadol gyda’i gilydd.
Diolch enfawr i bawb a gymerodd ran ac a helpodd i wneud y noson yn un mor arbennig. Diolch hefyd i bawb a fynychodd, roedd yn wirioneddol wych ac yn galonogol gweld cymaint o bobl yn dymuno dathlu'r Nadolig gyda ni.