Cafodd goeden Nadolig Ysgol Aberconwy ei harddangos yn eglwys y Santes Fair fel rhan o Ŵyl Coed Nadolig Hosbis Dewi Sant Conwy. Ein thema oedd 'Parch a Charedigrwydd'. Bu myfyrwyr o bob grŵp blwyddyn wrthi'n creu addurniadau Nadolig gyda dyfyniadau ysbrydoledig am fod yn garedig a pharchu ei gilydd.