Manteisiodd Ethan, myfyriwr Blwyddyn 13, ar gyfle gwych i fynychu Cynllun Haf yn Llundain a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth Addysg Gyfreithiol yr Arglwydd Edmund Davies i gael profiad uniongyrchol o sut beth y gallai gyrfa yn y Gyfraith fod.
Mewn un wythnos yn unig, nid yn unig y bu Ethan yn cysgodi cyfreithwyr, bargyfreithwyr a barnwyr, ond hefyd mynychodd y treial troseddol cyntaf erioed i gael ei ddarlledu yn yr Old Bailey ac enillodd ddadl ar bleidlais i bobl ifanc 16 oed dan lywyddiaeth Barnwr Uchel Lys.
Roedd Ethan yn ddiolchgar am y profiad, ac meddai, “Roedd yn anhygoel i weld yn agos y system gyfreithiol yn gweithio; mae hyn wedi fy helpu i benderfynu dilyn gyrfa yn y Gyfraith yn y dyfodol”.