Fel Prifathrawon Ysgolion Uwchradd Conwy roeddem am fanteisio ar y cyfle hwn i gyd-ddathlu ymdrechion ein dysgwyr Blwyddyn 11 yn wyneb y profiadau digynsail y maent wedi dod ar eu traws yn eu haddysg yn ystod eu blynyddoedd TGAU. Rydym yn falch iawn o’r ffordd y maent wedi mynd i'r afael â’u hastudiaethau a’r aeddfedrwydd a’r gwydnwch a ddangoswyd ganddynt.
Fel carfan rydym wedi gweld y bobl ifanc hyn yn cael eu herio mewn ffordd nas gwelwyd o’r blaen ac maent wedi ymateb i’r her hon mewn ffordd sy’n ein gwneud ni fel ysgolion yn falch iawn. Maent wedi dangos dyfalbarhad a dycnwch rhyfeddol. Mae'r rhain yn sgiliau gydol oes a fydd yn werthfawr iawn iddynt yn y dyfodol.
Rydym wrth ein bodd gyda'u cyflawniadau, a gobeithiwn y bydd y cyflawniadau hynny o gymorth mawr iddynt yn y dyfodol, boed hynny yn ein 6ed dosbarth, yn y coleg, wrth wneud prentisiaeth neu yn y gwaith.
Hoffem hefyd ddiolch i’n staff ymroddedig am arwain ein dysgwyr drwy’r cyfnod cythryblus hwn, gan eu paratoi ar gyfer eu harholiadau TGAU a galwedigaethol. Diolchwn i’n rhieni, cymunedau a llywodraethwyr am eu cefnogaeth i sicrhau cyflawniadau a llwyddiant ein holl fyfyrwyr.
Da iawn, blwyddyn 11 a phob dymuniad da ar gyfer y dyfodol!
Cyflawnodd myfyrwyr Blwyddyn 11 Ysgol Aberconwy set ragorol o ganlyniadau TGAU mewn ystod eang o bynciau academaidd a galwedigaethol. Meddai Gaynor Murphy, y Dirprwy Bennaeth, 'Rydym mor falch o gyflawniadau'r bobl ifanc hyn. Maen nhw wedi gweithio’n galed iawn ac wedi goresgyn yr heriau maen nhw wedi’u hwynebu.”
Ymhlith y perfformiadau nodedig: Kiera Williams 8A* a 2 As, Lucie Metters 8 A* a 2 A, Zak Parry 7A* a 3 A a Cian Adams 4A* a 5 A.
Mae'r nifer uchaf erioed o'r grŵp blwyddyn ar fin dychwelyd i chweched dosbarth llwyddiannus Ysgol Aberconwy i astudio ystod eang o gyrsiau Safon Uwch a Galwedigaethol. Mae rhai yn mynd i golegau Addysg Bellach lleol ac eraill yn mynd i fyd cyflogaeth. Er enghraifft, mae Coral Cantwell wedi cael lle yn y Liverpool Institute for Performing Arts - dymunwn yn dda iddi yn yr antur gyffrous hon.
Llongyfarchodd y Pennaeth, Ian Gerrard, holl fyfyrwyr a staff blwyddyn 11 ar eu canlyniadau a dymunodd y gorau iddynt ar gyfer eu dyfodol. Dywedodd, “Rwyf wrth fy modd gyda chyflawniadau rhagorol ein myfyrwyr eleni, yn enwedig o ystyried yr anawsterau y maent wedi'i wynebu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Dymunwn yn dda iddynt ar gyfer y cam nesaf yn eu haddysg ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nifer mor fawr ohonynt yn y dyfodol.”