Siarter Iaith Ysgolion Uwchradd

Ddydd Llun, Gorffennaf 4ydd, croesawodd myfyrwyr y Cyngor Iaith ynghyd â Mrs Luned Davies Parry, Cydlynydd Dwyieithrwydd y Llywodraethwyr i’r ysgol i lansio Siarter Iaith Gymraeg Campws Uwchradd. Rhoddodd myfyrwyr Cyngor Iaith gyflwyniad i’r Llywodraethwyr a gofyn am eu syniadau i hybu Cymreictod yn yr ysgol a gofyn iddynt am eu cefnogaeth. 

Braf yw cyhoeddi y bydd Ysgol Aberconwy yn treialu’r Siarter Iaith Gymraeg Campws Uwchradd ar ran ysgolion Sir Conwy ac ni allwn aros i ddechrau! I ddechrau, gadewch i ni ddechrau gyda rhoi rhywfaint o wybodaeth gefndir i chi ac egluro ei gyd-destun. 

Siarter Iaith Crëwyd y Siarter Iaith yng Ngwynedd 2011-12 dan arweiniad Carys Lake a oedd ar y pryd yn Arweinydd yng Nghanolfan Iaith Uwchradd Gwynedd i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y dosbarth a thu hwnt. Dechreuodd y daith o’i threialu yn Sir Gwynedd yn 2014. Cyflwynwyd y Siarter Iaith i ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a chyflwynwyd Cymraeg Campus i ysgolion cyfrwng Saesneg. Roedd yn llwyddiant ysgubol! 

Nod Llywodraeth Cymru yw cael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae hwn yn nod hirdymor, ac mae gan y system addysg ran allweddol i’w chwarae i’w gyflawni ac mae’r Siarter Iaith yn bwydo i mewn i hynny. 

Er mwyn cyflawni’r nod, bydd angen cynyddu nifer y dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, a gwneud newidiadau i’r cwricwlwm i sicrhau bod holl ddysgwyr Cymru yn gallu datblygu eu sgiliau Cymraeg ar gyfer cymdeithasu a byd gwaith yn y dyfodol.  

Un o amcanion allweddol Strategaeth Gymraeg 2050 yw sefydlu arferion cadarnhaol yn y defnydd o’r iaith, yn ogystal â chyfleoedd ffurfiol ac anffurfiol i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol.  

Mae’r strategaeth yn datgan bod angen cynllunio darpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc sydd nid yn unig yn rhoi’r cyfle iddynt ddefnyddio neu ymarfer y Gymraeg, ond sydd wedi’i thrwytho mewn agweddau cadarnhaol o ran yr iaith, a fydd yn golygu eu bod yn penderfynu defnyddio’r Gymraeg, gan eu helpu i weld nad yw’n ymwneud â’r ysgol yn unig, ond bod byd cymdeithasol a diwylliannol cyfoethog yn gysylltiedig â hi.  

Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn nodi’r camau sydd eu hangen i ddatblygu’r Gymraeg a’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y system addysg statudol, ac yn arbennig fel rhan o’r cwricwlwm newydd a fydd yn cynnwys un continwwm ar gyfer dysgu Cymraeg.   

Mae addysgu a dysgu Cymraeg yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Maen nhw am sicrhau bod ein system addysg yn ei gwneud hi’n bosibl i fwy o ddysgwyr feithrin ystod ehangach o sgiliau iaith yn y Gymraeg. Mae angen magu hyder plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r iaith nid yn unig mewn gwersi ond hefyd mewn gweithgareddau a'r tu allan i’r dosbarth. ​Mae angen i ni sicrhau y rhoddir pwyslais priodol ar yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru. 

Mae’r Cwricwlwm newydd i Gymru, a fydd yn cychwyn ar gyfer ein dysgwyr blwyddyn 7 ym mis Medi 2022, yn rhoi digon o gyfle i ddysgwyr ddatblygu a defnyddio eu Cymraeg. Mae’r Cwricwlwm Newydd yn cofleidio Cymru ddwyieithog mewn cyd-destun rhyngwladol. 

Beth mae Estyn yn chwilio amdano wrth arolygu ysgolion?  

Byddant yn ystyried gallu myfyrwyr i siarad ac ymateb i Gymraeg llafar, gan ystyried mannau cychwyn myfyrwyr.  

Byddant yn edrych ar y cynnydd y mae myfyrwyr yn ei wneud wrth ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu yn y Gymraeg trwy eu dysgu ar draws y cwricwlwm ac mewn cyd-destunau mwy anffurfiol. 

Yn ogystal, bydd yr arolygwyr yn arfarnu’r graddau y mae arweinwyr ysgol yn cynllunio cyfleoedd pwrpasol i fyfyrwyr ddatblygu eu medrau Cymraeg. Byddant hefyd yn edrych ar ba mor dda y mae Ysgol Aberconwy yn hyrwyddo manteision dysgu Cymraeg a bod yn amlieithog. 

Mae targedau a deilliannau’r Siarter Iaith yn ein herio ni yn Ysgol Aberconwy i wella’r Gymraeg sy’n cael ei harddangos o gwmpas yr ysgol a faint o Gymraeg a glywir o gwmpas yr ysgol ac i gynyddu’r cyfleoedd i’r disgyblion weld a chlywed yr iaith. Mae’n ein herio i gynyddu’r ddarpariaeth ddwyieithog ac i roi cyfleoedd i fyfyrwyr ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gwahanol bynciau. Mae angen i ni ddysgu myfyrwyr am eu hunaniaeth Gymreig ac am 'berthyn' ac rydym ni yn Ysgol Aberconwy eisiau iddynt adnabod y Cymry pwysig, enwog a thalentog ar hyd y canrifoedd. Yn anad dim, mae angen inni hyrwyddo pwysigrwydd y Gymraeg yn y gweithle. 

Er mwyn cefnogi tair gwobr y Siarter Iaith Gymraeg Campws Uwchradd, mae Ysgol Aberconwy wedi dechrau trefn newydd er mwyn herio a gwobrwyo athrawon ac adrannau am ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwersi ac am annog myfyrwyr i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg y tu allan i’w gwersi Cymraeg. ac rydym yn dyfarnu mentoriaid a staff gweinyddol hefyd. Mae ein system hefyd yn cwrdd â gofynion polisïau Conwy: 'Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg' a 'Strategaeth ar gyfer Hyrwyddo'r Iaith Gymraeg'. 

Mae tair gwobr i'w hennill dros dair blynedd. Maent wedi’u rhannu’n dair lefel i gefnogi anghenion y tair lefel o wobr sy’n rhan o’r Siarter Iaith Uwchradd. Rydym wedi defnyddio tirnodau lleol fel symbol i gyrraedd ein nodau 'Croesi'r Bont i Wobr Efydd' , 'Esgyn y Grisiau i Wobr Arian' a 'Dringo'r Mynydd i Wobr Aur' – y bont, waliau'r castell a Mynydd y Dref Conwy. 

CY