Llongyfarchiadau mawr i Alfie ym mlwyddyn 8 ar ei fuddugoliaeth ddiweddar ym Mhencampwriaethau Traws Gwlad Gogledd Cymru yn Wrecsam, ac ar ennill medalau efydd ym Mhencampwriaethau Traws Gwlad Cenedlaethol Cymru dan 13 ym Mhen-bre a 1500m dan 15 ym Mhencampwriaethau Dan Do Cymru.
Mae Alfie, sy’n mynychu clwb athletau Bae Colwyn lle mae’n hyfforddi ddwywaith yr wythnos, wedi cynrychioli ei glwb, rhanbarth Gogledd Cymru a Chymru mewn amrywiol ddigwyddiadau dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae wedi profi llawer o lwyddiant yn ystod y cyfnod hwn gan gynnwys ennill Cynghrair Traws Gwlad Gogledd Cymru, ennill efydd ym mhencampwriaeth Awyr Agored Cymru 1500m ac aur yn yr 800m ac mae'n chweched yn UK Parkrun dan 13 oed gydag amser o 17:42 munud. . Mae Alfie hefyd wedi cynrychioli Cymru ym Marathon Mini Llundain a daeth yn bedwerydd ar ddeg o blith 196 o fechgyn o'r un oedran ag ef o bob rhan o’r DU, gan olygu mai ef oedd yn y safle cyntaf o blith cystadleuwyr Cymru.
Gobeithiwn y bydd Alfie yn parhau i adeiladu ar y llwyddiannau hyn a dymunwn y gorau iddo yn ei rasys sydd i ddod.