Ar Chwefror 1af buom yn dathlu Blwyddyn y Teigr.
Dywedir mai nodweddion yr anifail arbennig hwn yw twf, datblygiad, creu a chynllunio. Felly, gyda’r rhinweddau hyn mewn golwg, darparodd Sefydliadau Confucius Cymru amrywiaeth o weithgareddau i fyfyrwyr ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru i roi eu dannedd iddynt! Roedd y rhain yn cynnwys adrodd straeon, gweithdai celf a chrefft Tsieineaidd a pherfformiadau byw.
Mwynhaodd myfyrwyr Ysgol Aberconwy sesiynau rhyngweithiol byw ac wedi’u recordio ar-lein a gyflwynwyd gan diwtoriaid Tsieineeg o Sefydliad Confucius Caerdydd ac a oedd wedi’u hamserlennu a’u dangos ar adegau amrywiol yn ystod y dydd. Rhoddwyd cyfle hefyd i fyfyrwyr gyfathrebu â'r tiwtoriaid Tsieineeg oedd yn arwain y sesiynau byw gan ddefnyddio'r opsiwn Sgwrsio.
Mwynhaodd y myfyrwyr amrywiaeth o sesiynau diwylliannol, addysgiadol a chreadigol, a oedd yn cynnwys: cyflwyniad i'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, cinio'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, Cyflwyniad i ddiwylliant Sidydd Tsieineaidd, Gweithdy Celf a Chrefft Tsieineaidd - Caligraffi, gweithgareddau'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, arferion Blwyddyn Newydd Tsieineaidd a tabŵs, cinio Blwyddyn Newydd Tsieineaidd, Adrodd Stori, Gweithdy Celf a Chrefft Tsieineaidd – Torri papur. Ymhlith hoff weithgareddau'r myfyrwyr oedd Caligraffi a thorri papur, a gyflwynwyd gan ein Miss Jie Chen ni ein hunain.
Llongyfarchiadau i enillwyr cystadlaethau Blwyddyn Newydd Tsieineaidd, y rhain oedd:
Cystadleuaeth Celfyddydau Teigr Sidydd
CA3 – 1af: Haf 8HC a Martha 7HM, Yn ail: Scarlett 7CC ac Emily 8DC
CA4 – 1af: Courtney, 11CC. Yn ail: Shawna 10HC ac Abbey 10DC.
50 Cwestiwn cwis
Kate 9DC, Lottie a James 7DM