"“Mae fy merch wedi cael amser gwych yr wythnos yma, mae hi wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd ac roedd hi wrth ei bodd gyda’r gwersi Almaeneg!!!! Diolch yn fawr i’r staff am roi’r fath groeso iddi. Da iawn chi Aberconwy” (Rhiant : Wythnos bontio)
"Mae presenoldeb, agwedd a moeseg gwaith myfyrwyr Ysgol Aberconwy wedi bod yn rhagorol. Bu’n bleser mawr eu dysgu ac maen nhw’n dwyn clod i’ch ysgol.”." (Twtor cwrs LINC)
" Ceir ystod eang o weithgareddau chwaraeon , creadigol a diwylliannol sy’n cefnogi dysgu disgyblion ac yn cyfrannu’n dda at eu datblygiad personol." [ESTYN 2018]
"Mae ethos cynhwysol a chefnogol yr ysgol, sy’n seiliedig ar barch ar y ddwy ochr, yn llwyddiannus o ran hyrwyddo lefelau uchel o les disgyblion." [ESTYN 2018]