Ysgol Aberconwy's Virtual Learning EnvironmentLike Ysgol Aberconwy on FacebookFollow Ysgol Aberconwy on Twitter      
 

Myfyrwyr Ysgol Aberconwy yn codi £747 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru

17 Gorffennaf 2017

Llongyfarchiadau i fyfyrwyr Tŷ Hiraethlyn yn Ysgol Aberconwy! O ganlyniad i’w hymdrechion diflino drwy’r flwyddyn i godi arian, llwyddwyd i gasglu £747 syfrdanol ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Cyflwynodd Geneva Henson, Nina Rowlands ac Arran Shackleton yr arian a godwyd gan eu tîm tŷ i Medwyn Hughes.

Yn ôl Mr Hughes “Rydw i’n ddiolchgar tu hwnt am gefnogaeth y myfyrwyr hyn i’r ymgyrch i godi arian er mwyn sicrhau bod ein hofrenyddion yn parhau i hedfan. Fel elusen, rydym yn falch iawn fod Ysgol Aberconwy yn parhau i gadw’i chysylltiad ag Ambiwlans Awyr Cymru drwy godi arian, ac yn ddiolchgar iawn am y siec hon gan yr ysgol.”

Er mwyn dysgu mwy am Elusen Ambiwlans Awyr Cymru a sut y gallwch gymryd rhan, ewch i www.walesairambulance.com

Top